Cliciwch yma i weld Geiriadur Cymraeg/Saesneg o dermau Chwaraeon a Hamdden.
Pwy yw Meysydd Chwarae Cymru/FIT Cymru?
Meysydd Chwarae Cymru yw rhan Gymreig o’r Fields in Trust (FIT).
Beth mae Meysydd Chwarae Cymru yn ei wneud yng Nghymru?
• Mae Meysydd Chwarae Cymru yn edrych i wella ansawdd bywyd ac iechyd yn y gymuned, wrth ddarparu, gwella a gwarchod cyfleusterau o ansawdd uchel, sydd yn cael eu defnyddio’n aml ar gyfer chwarae a chwaraeon.
• Ar hyn o bryd, mae Meysydd Chwarae Cymru yn gwarchod dros 150 o safleoedd, sef, o gwmpas 620 o erwau ar draws Gymru.
• Mae Meysydd Chwarae Cymru yn ymgyrchu ac yn lobïo cyrff priodol er mwyn dangos bod pwysigrwydd llefydd agored ag offer da yn cael ei werthfawrogi’n iawn er mwyn iechyd a hapusrwydd y boblogaeth.
• Mae Meysydd Chwarae Cymru yn cynghori'r tyle fod chwe erw o dir adloniant ar gyfer 1000 o’r boblogaeth - y Safon Chwe Erw.
• Mae Meysydd Chwarae Cymru yn cynghori ar wahanol bynciau o ddraeniad caeau chwarae i addasrwydd offerynnau chwarae plant, a hefyd cynhyrchu llawer o gylchgronau perthnasol.
Pam ‘rydym mewn bodolaeth?
• Mae tiroedd adloniant a thiroedd glas yn rhan hanfodol o bob cymuned ac yn gwella ansawdd bywyd pawb. Maent yn darparu llefydd saff i blant i chwarae, a rhywle i oedolion ymarfer, cymryd rhan mewn chwaraeon neu ymlacio. Mae rhaid gwarchodi'r llefydd hyn.
• Mae diffyg ymarfer cenedlaethol yn costio Cymru o’r lleiaf £500 miliwn y flwyddyn - ond ‘rydym yn dal i ganiatáu adeiladu ar feysydd chwarae, ac wrth hyn, difeddiannu pobl o le o fewn cyrraedd a llefydd adloniant am ddim.
• Nid oes gwarchodaeth statudol o lefydd adloniant yng Nghymru! Mae’r genedl yn gwarchod adeiladau hanesyddol, gerddi cyhoeddus a hefyd coed, ond mae ein hetifeddiaeth adloniant sydd yn amnewidiadwy, o dan fygwth.
• Ar hyn o bryd, ‘rydym yn gwybod am 15 o feysydd chwarae o dan fygwth yng Nghymru.
Sut y gallwch chi helpu?
• Cysylltwch â Meysydd Chwarae Cymru gyda gwybodaeth am feysydd chwarae o dan fygwth.
• Cefnogwch waith Meysydd Chwarae Cymru drwy ymuno fel aelod neu rhowch rodd.
Pwyllgor Meysydd Chwarae Cymru:
Ceri Preece (Cadeirydd), Arfon Haines Davies, Lynn Davies CBE, Ray Gravell, Mari James, Eddie Jones, Ivor Morgan, Dr Lynne Spackman, Geraint Williams.
Manylion Cysylltiad:
Meysydd Chwarae Cymru, Athrofa Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd CF11 9SW
Ffôn: 02920 230637 Ffacs: 02920 230643
E-bost: cymru@fieldsintrust.org
Rhif Cofrestri’r Elusen: 306070
